Exodus 28:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. “Y maent i gymryd aur, a sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main,

6. a gwneud yr effod o'r aur, y sidan glas, porffor ac ysgarlad, a'r lliain main wedi ei nyddu a'i wnïo'n gywrain.

7. Bydd iddi ddwy ysgwydd wedi eu cydio ynghyd ar y ddwy ochr er mwyn ei chau.

Exodus 28