Exodus 27:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Gwna'r allor ag astellau, yn wag oddi mewn. Gwna hi fel y dangoswyd iti ar y mynydd.

9. “Gwna gyntedd ar gyfer y tabernacl. Ar un ochr, yr ochr ddeheuol i'r cyntedd, bydd llenni o liain main wedi ei nyddu, can cufydd o hyd;

10. bydd ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.

11. Yr un modd, bydd ar yr ochr ogleddol lenni can cufydd o hyd, ag ugain colofn ac ugain troed o bres, ond bydd bachau a chylchau'r colofnau o arian.

Exodus 27