Exodus 24:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Aeth Moses i fyny i'r mynydd, a gorchuddiwyd y mynydd gan gwmwl.

16. Arhosodd gogoniant yr ARGLWYDD ar Fynydd Sinai, a gorchuddiodd y cwmwl y mynydd am chwe diwrnod; yna ar y seithfed dydd, galwodd Duw ar Moses o ganol y cwmwl.

17. Yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn ymddangos yng ngolwg pobl Israel fel tân yn difa ar ben y mynydd.

18. Aeth Moses i ganol y cwmwl, a dringodd i fyny'r mynydd, a bu yno am ddeugain diwrnod a deugain nos.

Exodus 24