Exodus 19:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Rhaid i'r offeiriaid sy'n nesáu at yr ARGLWYDD hefyd eu cysegru eu hunain, rhag i'r ARGLWYDD eu taro.”

23. Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “Ni all y bobl ddod i fyny i Fynydd Sinai, oherwydd iti ein rhybuddio i osod ffin o amgylch y mynydd a'i gysegru.”

24. Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dos i lawr, a thyrd ag Aaron i fyny gyda thi, ond paid â gadael i'r offeiriaid a'r bobl ruthro i fyny at yr ARGLWYDD, rhag iddo eu taro.”

25. Felly aeth Moses i lawr at y bobl a dweud hyn wrthynt.

Exodus 19