8. Fe ddaw pob un o'th weision i lawr ataf ac ymgrymu o'm blaen a dweud, ‘Dos allan, ti a phawb sy'n dy ganlyn.’ Yna fe af finnau allan.” Aeth o ŵydd Pharo wedi ei gythruddo.
9. Yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Ni fydd Pharo'n gwrando arnoch; felly byddaf yn amlhau fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft.”
10. Gwnaeth Moses ac Aaron yr holl ryfeddodau hyn yng ngŵydd Pharo, ond caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo fel na fynnai ryddhau'r Israeliaid o'i wlad.