Exodus 10:13-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Felly estynnodd Moses ei wialen dros wlad yr Aifft, ac achosodd yr ARGLWYDD i'r dwyreinwynt chwythu ar y wlad trwy gydol y diwrnod hwnnw a thrwy'r nos; erbyn y bore yr oedd y dwyreinwynt wedi dod â'r locustiaid.

14. Daeth y locustiaid i fyny dros yr holl wlad a disgyn ym mhob ardal yn yr Aifft. Ni welwyd y fath bla trwm o locustiaid erioed o'r blaen, ac ni welir ei debyg eto.

15. Yr oeddent yn gorchuddio wyneb y tir nes bod y wlad i gyd yn ddu, ac yr oeddent yn bwyta holl lysiau'r ddaear a holl ffrwythau'r coed oedd wedi eu gadael ar ôl y cenllysg; nid oedd dim gwyrdd ar ôl ar y coed na'r planhigion trwy holl wlad yr Aifft.

16. Brysiodd Pharo i anfon am Moses ac Aaron a dweud, “Yr wyf wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD eich Duw ac yn eich erbyn chwithau.

17. Yn awr, maddau fy mhechod am y tro hwn yn unig, a gweddïwch ar i'r ARGLWYDD eich Duw symud ymaith y pla marwol hwn oddi wrthyf.”

18. Felly aeth Moses allan o ŵydd Pharo, a gweddïodd ar yr ARGLWYDD.

19. Gyrrodd yr ARGLWYDD wynt cryf iawn o'r gorllewin, a chododd hwnnw'r locustiaid a'u cludo i'r Môr Coch; ni adawyd yr un o'r locustiaid ar ôl yn unman yn yr Aifft.

20. Ond caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo, a gwrthododd ryddhau'r Israeliaid.

21. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Estyn allan dy law tua'r nefoedd, a bydd tywyllwch dros wlad yr Aifft, tywyllwch y gellir ei deimlo.”

22. Felly estynnodd Moses ei law tua'r nefoedd, a bu tywyllwch dudew trwy holl wlad yr Aifft am dridiau.

Exodus 10