Esther 10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Grym y Brenin a Mordecai

1. Gosododd y Brenin Ahasferus dreth ar yr ymerodraeth ac ar ynysoedd y môr.

2. Ac am weithredoedd nerthol a grymus y brenin, a'r modd yr anrhydeddodd Mordecai, onid yw'r hanes wedi ei ysgrifennu yn llyfr cronicl brenhinoedd Media a Persia?

3. Oherwydd Mordecai'r Iddew oedd y nesaf at y Brenin Ahasferus; yr oedd yn fawr ymysg yr Iddewon ac yn gymeradwy gan lawer iawn o'i frodyr, am ei fod yn ceisio gwneud lles i'w bobl ac yn hyrwyddo ffyniant ei holl genedl.