Esra 2:48-67 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

48. Resin, Necoda, Gassam,

49. Ussa, Pasea, Besai,

50. Asna, Meunim, Neffusim,

51. Bacbuc, Hacuffa, Harhur,

52. Basluth, Mehida, Harsa,

53. Barcos, Sisera, Tama,

54. Neseia, a Hatiffa.

55. Disgynyddion gweision Solomon: teuluoedd Sotai, Soffereth, Peruda,

56. Jala, Darcon, Gidel,

57. Seffateia, Hattil, Pochereth o Sebaim, ac Ami.

58. Cyfanswm gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon oedd tri chant naw deg a dau.

59. Daeth y rhai canlynol i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adan ac Immer, ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras:

60. teuluoedd Delaia, Tobeia, a Necoda, chwe chant pum deg a dau.

61. Ac o blith yr offeiriaid: teuluoedd Hobaia, Cos, a'r Barsilai a briododd un o ferched Barsilai o Gilead a chymryd ei enw.

62. Chwiliodd y rhain am gofnod o'u hachau, ond methu ei gael; felly cawsant eu hatal o'r offeiriadaeth,

63. a gwaharddodd y llywodraethwr iddynt fwyta'r pethau mwyaf cysegredig nes y ceid offeiriad i ymgynghori รข'r Wrim a'r Twmim.

64. Nifer y fintai gyfan oedd pedwar deg a dwy o filoedd tri chant chwe deg,

65. heblaw eu gweision a'u morynion, oedd yn saith mil tri chant tri deg a saith. Yr oedd ganddynt hefyd ddau gant o gantorion a chantoresau.

66. Yr oedd ganddynt saith gant tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump o fulod,

67. pedwar cant tri deg a phump o gamelod, a chwe mil saith gant dau ddeg o asynnod.

Esra 2