Esra 10:8-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. a byddai pob un na ddôi o fewn tridiau ar wŷs y penaethiaid a'r henuriaid yn colli ei gyfoeth ac yn cael ei dorri allan o gynulleidfa'r gaethglud.

9. O fewn tridiau, ar yr ugeinfed dydd o'r nawfed mis, ymgasglodd holl wŷr Jwda a Benjamin i Jerwsalem, ac eisteddodd pawb yn y sgwâr o flaen tŷ Dduw yn crynu o achos yr hyn oedd yn digwydd ac o achos y glawogydd.

10. Cododd Esra yr offeiriad a dweud wrthynt, “Yr ydych wedi gwneud camwedd ac wedi ychwanegu at euogrwydd Israel trwy briodi merched estron.

11. Yn awr cyffeswch gerbron ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid; gwnewch ei ewyllys ef ac ymwahanwch oddi wrth bobloedd y wlad a'r merched estron.”

12. Atebodd yr holl gynulleidfa â llais uchel, “Gwnawn; rhaid i ni wneud fel yr wyt ti'n gorchymyn.

13. Ond y mae yma lawer o bobl; y mae'n dymor y glawogydd, ac ni allwn aros yn yr awyr agored. Nid gwaith diwrnod neu ddau ydyw, oherwydd y mae llawer ohonom wedi pechu yn hyn o beth.

14. Caiff ein penaethiaid gynrychioli'r gynulleidfa gyfan, a bydded i'r rhai yn ein dinasoedd sydd wedi priodi merched estron ddod ar amseroedd penodedig, pob un gyda henuriaid a barnwyr ei ddinas ei hun, nes i ddicter mawr ein Duw am hyn droi oddi wrthym.”

15. Yr unig wrthwynebwyr oedd Jonathan fab Asahel ac Eseia fab Ticfa, a chawsant gefnogaeth Mesulam a Sabethai y Lefiad.

Esra 10