Esra 10:12-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Atebodd yr holl gynulleidfa â llais uchel, “Gwnawn; rhaid i ni wneud fel yr wyt ti'n gorchymyn.

13. Ond y mae yma lawer o bobl; y mae'n dymor y glawogydd, ac ni allwn aros yn yr awyr agored. Nid gwaith diwrnod neu ddau ydyw, oherwydd y mae llawer ohonom wedi pechu yn hyn o beth.

14. Caiff ein penaethiaid gynrychioli'r gynulleidfa gyfan, a bydded i'r rhai yn ein dinasoedd sydd wedi priodi merched estron ddod ar amseroedd penodedig, pob un gyda henuriaid a barnwyr ei ddinas ei hun, nes i ddicter mawr ein Duw am hyn droi oddi wrthym.”

15. Yr unig wrthwynebwyr oedd Jonathan fab Asahel ac Eseia fab Ticfa, a chawsant gefnogaeth Mesulam a Sabethai y Lefiad.

16. Wedi i'r rhai oedd wedi bod yn y gaethglud gytuno, fe neilltuodd Esra yr offeiriad ddynion oedd yn bennau-teuluoedd i gynrychioli eu teuluoedd wrth eu henwau. Eisteddasant ar y dydd cyntaf o'r degfed mis i archwilio'r mater,

17. ac erbyn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf yr oeddent wedi gorffen eu hymchwiliad i'r holl briodasau gyda merched estron.

18. Ymysg meibion yr offeiriaid oedd wedi priodi merched estron yr oedd y canlynol: Maseia, Elieser, Jarib a Gedaleia o deulu Jesua fab Josadac a'i frodyr.

19. Gwnaethant addewid i ysgaru eu gwragedd ac offrymasant hwrdd o'r praidd am eu trosedd.

20. O feibion Immer: Hanani a Sebadeia.

21. O feibion Harim: Maseia, Eleia, Semaia, Jehiel ac Usseia.

22. O feibion Pasur: Elioenai, Maseia, Ismael, Nethaneel, Josabad ac Elasa.

23. O'r Lefiaid: Josabad, Simei a Chelaia (hynny yw, Celita), Pethaheia, Jwda ac Elieser.

Esra 10