6. Cawsant gefnogaeth eu holl gymdogion gyda llestri arian ac aur, ac offer ac anifeiliaid ac anrhegion gwerthfawr, at y cwbl a roed yn wirfoddol.
7. Cyflwynodd y Brenin Cyrus lestri tŷ'r ARGLWYDD a ddygwyd gan Nebuchadnesar o Jerwsalem i'w gosod yn nheml ei dduwiau, a rhoddodd hwy i Mithredath y trysorydd;
8. rhestrodd yntau hwy ar gyfer Sesbassar, llywodraethwr Jwda.
9. A dyma'r rhestr: dysglau aur, tri deg; dysglau arian, mil; thuserau, dau ddeg a naw;
10. cawgiau aur, tri deg; cawgiau arian, pedwar cant a deg; llestri eraill, mil.
11. Cyfanswm y llestri aur ac arian, pum mil a phedwar cant. A daeth Sesbassar â'r cwbl gydag ef pan ddychwelodd y gaethglud o Fabilon i Jerwsalem.