20. Ni bydd yno byth eto blentyn yn dihoeni,na henwr heb gyflawni nifer ei flynyddoedd;llanc fydd yr un sy'n marw'n ganmlwydd,a dilornir y sawl nad yw'n cyrraedd ei gant.
21. Byddant yn adeiladu tai ac yn byw ynddynt,yn plannu gwinllannoedd ac yn bwyta'u ffrwyth;
22. ni fydd neb yn adeiladu i arall gyfanheddu,nac yn plannu ac arall yn bwyta.Bydd fy mhobl yn byw cyhyd รข choeden,a'm hetholedig yn llwyr fwynhau gwaith eu dwylo.
23. Ni fyddant yn llafurio'n ofer,nac yn magu plant i drallod;cenhedlaeth a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD ydynt,hwy a'u hepil hefyd.
24. Byddaf yn eu hateb cyn iddynt alw,ac yn eu gwrando wrth iddynt lefaru.