Eseia 65:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Yr oeddwn yno i'm ceisio gan rai nad oeddent yn holi amdanaf,yno i'm cael gan rai na chwilient amdanaf.Dywedais, ‘Edrychwch, dyma fi’,wrth genedl na alwai ar fy enw.

2. Estynnais fy nwylo'n feunyddiol at bobl wrthryfelgar,rhai oedd yn rhodio ffordd drygioni,ac yn dilyn eu mympwy eu hunain,

3. rhai oedd yn fy mhryfocio'n ddi-baid yn fy wyneb,yn aberthu mewn gerddi ac arogldarthu ar briddfeini,

4. yn eistedd ymhlith y beddau,ac yn treulio'r nos mewn mynwentydd,yn bwyta cig moch, a'u llestri'n llawn o gawl aflan.

5. Dywedant, ‘Cadw draw,paid â'm cyffwrdd, rwy'n rhy sanctaidd i ti.’Y mae'r bobl hyn yn fwg yn fy ffroenau,yn dân sy'n mygu drwy'r dydd.

Eseia 65