Eseia 64:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. O na fuaset wedi rhwygo'r nefoedd, a dod i lawr,a'r mynyddoedd yn toddi o'th flaen,

2. fel tân yn llosgi prysgwydd,fel dŵr yn berwi ar dân,er mwyn i'th enw ddod yn hysbys i'th gaseion,ac i'r cenhedloedd grynu yn dy ŵydd!

3. Pan wnaethost bethau ofnadwy heb i ni eu disgwyl,daethost i lawr, a thoddodd y mynyddoedd o'th flaen.

4. Ni chlywodd neb erioed,ni ddaliodd clust, ni chanfu llygadunrhyw Dduw ond tydi,a wnâi ddim dros y rhai sy'n disgwyl wrtho.

Eseia 64