9. Bydd eu plant yn adnabyddus ymysg y cenhedloedd,a'u hil ymhlith y bobloedd;bydd pawb fydd yn eu gweld yn eu cydnabodyn genedl a fendithiodd yr ARGLWYDD.”
10. Llawenychaf yn fawr yn yr ARGLWYDD,gorfoleddaf yn fy Nuw;canys gwisgodd amdanaf wisgoedd iachawdwriaeth,taenodd fantell cyfiawnder drosof,fel y bydd priodfab yn gwisgo'i dorch,a phriodferch yn ei haddurno'i hun â'i thlysau.
11. Fel y gwna'r ddaear i'r blagur dyfu,a'r ardd i'r hadau egino,felly y gwna'r ARGLWYDD Dduw i gyfiawnder a moliantdarddu gerbron yr holl genhedloedd.