Eseia 54:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Os bydd rhai yn ymosod arnat,nid oddi wrthyf fi y daw hyn;bydd pwy bynnag sy'n ymosod arnat yn cwympo o'th achos.

16. Edrych, myfi a greodd y gof,sy'n chwythu'r marwor yn dân,ac yn llunio arf at ei waith;myfi hefyd a greodd y dinistrydd i ddistrywio.

17. Ond ni lwydda unrhyw arf a luniwyd yn dy erbyn;gwrthbrofir pob tafod a'th gyhudda mewn barn.Dyma etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD,ac oddi wrthyf fi y daw eu goruchafiaeth,”medd yr ARGLWYDD.

Eseia 54