Eseia 51:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Myfi yw'r ARGLWYDD, dy Dduw,sy'n cynhyrfu'r môr nes i'r tonnau ruo; ARGLWYDD y Lluoedd yw fy enw.

16. Gosodais fy ngeiriau yn dy enau,cysgodais di yng nghledr fy llaw;taenais y nefoedd a sylfaenais y ddaear,a dweud wrth Seion, ‘Fy mhobl wyt ti.’ ”

17. Deffro, deffro, cod, Jerwsalem;yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lid,yfaist bob dafn o waddod y cwpan meddwol.

18. O blith yr holl blant yr esgorodd arnynt,nid oes un a all ei thywys;o'r holl rai a fagodd,nid oes un a afael yn ei llaw.

Eseia 51