Eseia 51:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. “Myfi, myfi sy'n eich diddanu;pam, ynteu, yr ofnwch neb meidrol,neu rywun sydd fel glaswelltyn?

13. Pam yr ydych yn anghofio'r ARGLWYDD, eich creawdwr,yr un a ledodd y nefoedd,ac a sylfaenodd y ddaear?Pam yr ofnwch o hyd, drwy'r dydd,rhag llid gorthrymwr sy'n barod i ddistrywio?Ond ple mae llid y gorthrymwr?

14. Caiff y caeth ei ryddhau yn y man;ni fydd yn marw yn y gell,ac ni fydd pall ar ei fara.

Eseia 51