Eseia 5:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. y rhai sy'n dweud, “Brysied,prysured gyda'i orchwyl, inni gael gweld;doed pwrpas Sanct Israel i'r golwg, inni wybod beth yw.”

20. Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda, a da yn ddrwg,sy'n gwneud tywyllwch yn oleuni, a goleuni yn dywyllwch,sy'n gwneud chwerw yn felys a melys yn chwerw.

21. Gwae'r rhai sy'n ddoeth yn eu golwg eu hunain,ac yn gall yn eu tyb eu hunain.

22. Gwae'r rhai sy'n arwyr wrth yfed gwin,ac yn gryfion wrth gymysgu diod gadarn,

Eseia 5