Eseia 49:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Edrych o'th amgylch, a gwêl;y mae pawb yn ymgasglu ac yn dod atat.Cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr ARGLWYDD,“byddi'n eu gwisgo i gyd fel addurn,ac yn eu rhwymo amdanat fel y gwna priodferch.

19. Bydd dy ddiffeithwch a'th anialwch a'th dir anrhaithyn rhy gyfyng bellach i'th breswylwyr,gan fod dy ddifodwyr ymhell i ffwrdd.

20. Bydd y plant a anwyd yn nydd dy alaryn dweud eto'n hyglyw,‘Nid oes digon o le i mi;symud draw, i mi gael lle i fyw.’

Eseia 49