Eseia 48:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. a byddai dy had fel y tywod,a'th epil fel ei raean,a'u henw heb ei dorri ymaith na'i ddileu o'm gŵydd.”

20. Ewch allan o Fabilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid;mynegwch hyn gyda bloedd gorfoledd,cyhoeddwch ef, a'i hysbysu hyd gyrrau'r ddaear;dywedwch, “Yr ARGLWYDD a waredodd ei was Jacob.”

21. Nid oedd arnynt sychedpan arweiniodd hwy yn y lleoedd anial;gwnaeth i ddŵr lifo iddynt o'r graig;holltodd y graig a phistyllodd y dŵr.

22. “Nid oes llwyddiant i'r annuwiol,” medd yr ARGLWYDD.

Eseia 48