Eseia 46:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Rwyf o'r dechreuad yn mynegi'r diwedd,ac o'r cychwyn yr hyn oedd heb ei wneud.Dywedaf, ‘Fe saif fy nghyngor,a chyflawnaf fy holl fwriad.’

11. Galwaf ar aderyn ysglyfaethus o'r dwyrain,a gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell.Yn wir, lleferais ac fe'i dygaf i ben,fe'i lluniais ac fe'i gwnaf.

12. Gwrandewch arnaf fi, chwi bobl ystyfnig,chwi sy'n bell oddi wrth gyfiawnder.

13. Paraf i'm cyfiawnder nesáu;nid yw'n bell, ac nid oeda fy iachawdwriaeth.Rhof iachawdwriaeth yn Seion,a'm gogoniant i Israel.”

Eseia 46