Eseia 45:7-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. yn llunio goleuniac yn creu tywyllwch,yn peri llwyddiant ac yn achosi methiant;myfi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cyfan.

8. “Defnynnwch oddi fry, O nefoedd;tywallted yr wybren gyfiawnder.Agored y ddaear, er mwyn i iachawdwriaeth eginoac i gyfiawnder flaguro.Myfi, yr ARGLWYDD, a'i gwnaeth.

9. “Gwae'r sawl sy'n ymryson â'i luniwr,darn o lestr yn erbyn y crochenydd.A ddywed y clai wrth ei luniwr, ‘Beth wnei di?’neu, ‘Nid oes graen ar dy waith’?

10. Gwae'r sawl sy'n dweud wrth dad, ‘Beth genhedli di?’neu wrth wraig, ‘Ar beth yr esgori?’ ”

11. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,Sanct Israel a'i luniwr:“A ydych yn fy holi i am fy mhlant,ac yn gorchymyn imi am waith fy nwylo?

12. Myfi a wnaeth y ddaear,a chreu pobl arni;fy llaw i a estynnodd y nefoedd,a threfnu ei holl lu.

13. Myfi a gododd Cyrus i fuddugoliaeth,ac unioni ei holl lwybrau.Ef fydd yn codi fy ninas,ac yn gollwng fy nghaethion yn rhydd,ond nid am bris nac am wobr,”medd ARGLWYDD y Lluoedd.

14. Dyma a ddywed yr ARGLWYDD:“Bydd llafurwyr yr Aifft, masnachwyr Ethiopia a'r Sabeaid talyn croesi atat ac yn eiddo i ti;dônt ar dy ôl mewn cadwyni,ymgrymant i ti a chyffesu,‘Yn sicr y mae Duw yn eich plith,ac nid oes neb ond ef yn Dduw.’ ”

15. Yn wir, Duw cuddiedig wyt ti,Dduw Israel, y Gwaredydd.

Eseia 45