18. “ ‘Chwi sy'n fyddar, clywch;chwi sy'n ddall, edrychwch a gwelwch.
19. Does neb mor ddall â'm gwas,nac mor fyddar â'r negesydd a anfonaf;does neb mor ddall â'r un ymroddedig,mor ddall â gwas yr ARGLWYDD.
20. Er iddo weld llawer, nid yw'n eu hystyried;er bod ei glustiau'n agored, nid yw'n gwrando.’
21. Dymunodd yr ARGLWYDD, er mwyn ei gyfiawnder,fawrhau'r gyfraith, a'i gwneud yn anrhydeddus;
22. ond ysbeiliwyd ac anrheithiwyd y bobl hyn;cawsant bawb eu dal mewn tyllau,a'u cuddio mewn celloedd,yn ysbail heb waredydd,yn anrhaith heb neb i ddweud, ‘Rho'n ôl.’
23. Pwy ohonoch a all wrando ar hyn,ac ystyried a gwrando i'r diwedd?
24. Pwy a wnaeth Jacob yn anrhaith,a rhoi Israel i'r ysbeilwyr?Onid yr ARGLWYDD, y pechasom yn ei erbyn?Nid oeddent am rodio yn ei ffyrddna gwrando ar ei gyfraith;
25. felly tywalltodd ei lid a'i ddicter arnynt,a chynddaredd y frwydr.Caeodd y fflam amdano,ond ni ddysgodd ei wers;llosgodd, ond nid ystyriodd.”