3. Llais un yn galw,“Paratowch yn yr anialwch ffordd yr ARGLWYDD,unionwch yn y diffeithwch briffordd i'n Duw ni.
4. Caiff pob pant ei godi,pob mynydd a bryn ei ostwng;gwneir y tir ysgythrog yn llyfn,a'r tir anwastad yn wastadedd.
5. Datguddir gogoniant yr ARGLWYDD,a phawb ynghyd yn ei weld.Genau'r ARGLWYDD a lefarodd.”
6. Llais un yn dweud, “Galw”;a daw'r ateb, “Beth a alwaf?Y mae pob un meidrol fel glaswellt,a'i holl nerth fel blodeuyn y maes.
7. Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywopan chwyth anadl yr ARGLWYDD arno.Yn wir, glaswellt yw'r bobl.
8. Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo;ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth.”
9. Dring i fynydd uchel;ti, Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da,cod dy lais yn gryf;ti, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da,gwaedda, paid ag ofni.Dywed wrth ddinasoedd Jwda,“Dyma eich Duw chwi.”
10. Wele'r Arglwydd DDUWyn dod mewn nerth,yn rheoli â'i fraich.Wele, y mae ei wobr ganddo,a'i dâl gydag ef.
11. Y mae'n porthi ei braidd fel bugail,ac â'i fraich yn eu casglu ynghyd;y mae'n cludo'r ŵyn yn ei gôl,ac yn coleddu'r mamogiaid.