Eseia 39:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr adeg honno anfonodd Merodach Baladan, mab Baladan brenin Babilon, genhadau gydag anrheg i Heseceia, oherwydd clywsai fod Heseceia wedi bod yn wael ac wedi gwella.

2. Croesawodd Heseceia hwy, a dangos iddynt ei drysordy, yr arian a'r aur a'r perlysiau a'r olew persawrus, a hefyd yr holl arfdy a phob peth oedd yn ei storfeydd; nid oedd dim yn ei dŷ nac yn ei holl deyrnas nas dangosodd Heseceia iddynt.

Eseia 39