Eseia 35:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Yna fe agorir llygaid y deilliona chlustiau'r byddariaid;

6. fe lama'r cloff fel hydd,fe gân tafod y mudan;tyr dyfroedd allan yn yr anialwch,ac afonydd yn y diffeithwch;

7. bydd y crastir yn llyn,a'r tir sych yn ffynhonnau byw;yn y tir garw, lle cyrcha'r siacal,bydd gweirglodd o gorsennau a brwyn.

8. Yno bydd priffordd a ffordd,a gelwir hi yn ffordd sanctaidd;ni bydd yr halogedig yn mynd ar hyd-ddi;bydd yn ffordd i'r pererin,ac nid i'r cyfeiliorn, i grwydro ar hyd-ddi.

Eseia 35