Eseia 33:22-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Yr ARGLWYDD yw ein barnwr,yr ARGLWYDD yw ein deddfwr;yr ARGLWYDD yw ein brenin,ac ef fydd yn ein gwaredu.

23. Y mae dy raffau'n llac,heb ddal yr hwylbren yn gadarn yn ei le,ac nid yw'r hwyliau wedi eu lledu.Yna fe rennir ysbail ac anrhaith mawr,a bydd y cloff yn rheibio ysglyfaeth.

24. Ni ddywed neb o'r preswylwyr, “Rwy'n glaf”,a maddeuir i'r trigolion eu camweddau.

Eseia 33