Eseia 30:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. ond sy'n dweud wrth y gweledyddion, “Peidiwch ag edrych”,ac wrth y proffwydi, “Peidiwch â phroffwydo i ni bethau uniawn,ond llefarwch weniaith a gweledigaethau hudolus.

11. Trowch o'r ffordd, gadewch y llwybr uniawn,parwch i Sanct Israel adael llonydd i ni.”

12. Am hynny, fe ddywed Sanct Israel fel hyn:“Am i chwi wrthod y gair hwnac ymddiried mewn twyll a cham, a phwyso arnynt,

13. bydd y drygioni hwn yn eich golwgfel mur uchel a hollt yn rhedeg i lawr ar ei hyd,ac yn sydyn, mewn eiliad, yn chwalu;

Eseia 30