Eseia 29:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Bydd holl dyrfa'r cenhedloedd sy'n rhyfela yn erbyn Ariel,yn erbyn ei holl amddiffynfa a'i chadernid, ac yn ei gormesu,fel breuddwyd, fel gweledigaeth nos—

8. fel y bydd y newynog yn breuddwydio ei fod yn bwyta,ac yn deffro a'i gael ei hun yn wag,fel y bydd y sychedig yn breuddwydio ei fod yn yfed,ac yn deffro a'i gael ei hun yn wan a sychedig.Felly y bydd gyda thyrfa'r holl genhedloeddsy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.

9. Safwch yn syn a syfrdan, yn ddall a hurt;ewch yn feddw, ond nid ar win,yn chwil, ond nid ar ddiod gadarn.

10. Canys tywalltodd yr ARGLWYDD arnoch ysbryd trwmgwsg;caeodd eich llygaid, sef y proffwydi,a gorchuddiodd eich pennau, sef y gweledyddion.

11. Aeth y broffwydoliaeth i gyd fel geiriau llyfr dan sêl. Os rhoddir ef i un a all ddarllen, a dweud, “Darllen hwn i mi”, fe etyb, “Ni allaf, oherwydd y mae wedi ei selio.”

Eseia 29