Eseia 29:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Ond bydd tyrfa dy elynion fel llwch mân,a thyrfa dy gaseion fel us yn mynd heibio;yna'n sydyn, ar amrantiad,

6. fe'th gosbir gan ARGLWYDD y Lluoeddâ tharan a daeargryn a sŵn mawr,â storm a thymestl a fflam dân ysol.

7. Bydd holl dyrfa'r cenhedloedd sy'n rhyfela yn erbyn Ariel,yn erbyn ei holl amddiffynfa a'i chadernid, ac yn ei gormesu,fel breuddwyd, fel gweledigaeth nos—

8. fel y bydd y newynog yn breuddwydio ei fod yn bwyta,ac yn deffro a'i gael ei hun yn wag,fel y bydd y sychedig yn breuddwydio ei fod yn yfed,ac yn deffro a'i gael ei hun yn wan a sychedig.Felly y bydd gyda thyrfa'r holl genhedloeddsy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.

9. Safwch yn syn a syfrdan, yn ddall a hurt;ewch yn feddw, ond nid ar win,yn chwil, ond nid ar ddiod gadarn.

10. Canys tywalltodd yr ARGLWYDD arnoch ysbryd trwmgwsg;caeodd eich llygaid, sef y proffwydi,a gorchuddiodd eich pennau, sef y gweledyddion.

Eseia 29