Eseia 21:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Y mae fy meddwl yn drysu, a braw yn fy nirdynnu;trodd yr hwyrddydd a ddymunais yn ddychryn imi.

5. Huliant fwrdd, taenant y lliain,y maent yn bwyta ac yfed.Codwch, chwi dywysogion, gloywch eich tarian.

6. Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf:“Dos, gosod wyliwr i fynegi'r hyn a wêl.

7. Os bydd yn gweld cerbyd gyda phâr o feirch,marchog ar asyn neu farchog ar gamel,y mae i sylwi'n ddyfal, ddyfal.”

8. Yna fe lefodd y gwyliwr,“Rwyf wedi sefyll ar y tŵr ar hyd y dydd, O Arglwydd,ac rwyf wedi cadw gwyliadwriaeth am nosau cyfan;

9. a dyma a ddaeth—gŵr mewn cerbyd gyda phâr o feirch,yn dweud, ‘Y mae wedi syrthio! Y mae Babilon wedi syrthio,a holl ddelwau ei duwiau wedi eu dryllio i'r llawr.’ ”

Eseia 21