Eseia 21:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. dewch â diod i gyfarfod y rhai sychedig.Chwi drigolion Tema,ewch i gyfarfod y fföedigion â bara;

15. oherwydd ffoesant rhag y cleddyf, rhag y cleddyf noetha'r bwa anelog, a rhag pwys y frwydr.

16. Oherwydd fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf: “O fewn blwyddyn, yn ôl tymor gwas cyflog, daw diwedd ar holl ogoniant Cedar;

17. ychydig o saethwyr bwa o blith gwŷr grymus Cedar a fydd yn weddill.” Llefarodd yr ARGLWYDD, Duw Israel.

Eseia 21