Eseia 21:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr oracl am anialwch y môr:Fel corwynt yn chwyrlïo dros y Negef,felly y daw dinistr o'r anialwch, o wlad ofnadwy.

2. Mynegwyd gweledigaeth greulon i mi:bradwr yn bradychu, anrheithiwr yn anrheithio.Cod, Elam! I'r gwarchae, Fediaid!Rhof daw ar bob griddfan a achoswyd.

3. Am hynny llanwyd fy lwynau â gofid,cydiwyd ynof gan wewyr, fel gwraig wrth esgor;cythryblwyd fi wrth ei glywed,brawychais wrth ei weld.

Eseia 21