Eseia 19:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Trosglwyddaf yr Aifft i feistr caled,a theyrnasa brenin creulon arnynt,”medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.

5. Sychir dyfroedd y Neil,bydd yr afon yn hesb a sych,

6. y ffosydd yn drewi,ffrydiau y Neil yn edwino gan sychder,a'r brwyn a'r helyg yn gwywo;

7. bydd lleiniau o dir moel wrth y Neil,a bydd popeth a heuir gyda glan yr afonyn crino ac yn diflannu'n llwyr.

Eseia 19