Eseia 17:6-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Ac ni chaiff ond gweddillion wrth guro'r olewydd,dim ond dau ffrwyth neu dri ar flaen y brigau,pedwar neu bump o ffrwythau ar ganghennau'r coed,”medd yr ARGLWYDD, Duw Israel.

7. Yn y dydd hwnnw fe edrych pobl at eu Gwneuthurwr, a throi eu golwg at Sanct Israel.

8. Nid edrychant at yr allorau, gwaith eu dwylo, nac ychwaith at yr hyn a wnaeth eu bysedd—y pyst cysegredig a'r allorau arogldarthu.

9. Yn y dydd hwnnw y gadewir eu dinasoedd cadarn fel adfeilion dinasoedd yr Hefiaid a'r Amoriaid, a adawyd o achos yr Israeliaid; a byddant yn ddiffaith.

10. Oherwydd anghofiaist y Duw a'th achubodd;ni chofiaist graig dy gadernid;am hynny, er i ti blannu planhigion hyfryda gosod impyn estron,

11. a'u cael i dyfu ar y dydd y plennaist hwyac i flodeuo yn y bore yr heuaist hwy,bydd y cnwd wedi crino mewn dydd o ofida gwendid nychlyd.

12. Och! Twrf pobloedd laweryn taranu fel tonnau'r môr;y mae rhuad y bobloedd fel rhuad dyfroedd cryfion.

13. Er bod y bobloedd yn rhuo fel rhuad dyfroedd mawrion,pan geryddir hwy, fe ffoant ymhell;erlidir hwy fel peiswyn ar fynydd o flaen y gwynt,fel plu ysgall o flaen corwynt.

14. Tua'r hwyrddydd wele drallod;cyn y bore aeth y cyfan.Dyma dynged ein hysbeilwyr,dyma ran ein rheibwyr.

Eseia 17