Eseia 16:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Ysgubwyd ymaith y llawenydd a'r gorfoledd o'r dolydd;mwyach ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd,ni sathra'r sathrwr win yn y cafnau,a rhoddais daw ar weiddi'r cynaeafwyr.

11. Am hynny fe alara f'ymysgaroedd fel tannau telyn dros Moab,a'm hymysgaroedd dros Cir-hareseth.

12. Pan ddaw Moab i addoli,ni wna ond ei flino'i hun yn yr uchelfa;pan ddaw i'r cysegr i weddïo,ni thycia ddim.

13. Dyna'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Moab gynt.

14. Yn awr fe ddywed yr ARGLWYDD, “Ymhen tair blynedd, yn ôl tymor gwas cyflog, bydd gogoniant Moab yn ddirmyg er cymaint ei rhifedi; bydd y rhai sy'n weddill yn ychydig ac yn ddibwys.”

Eseia 16