Eseia 15:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr oracl am Moab:Y noson y dinistrir Ar, fe dderfydd am Moab;y noson y dinistrir Cir, fe dderfydd am Moab.

2. Dringa merch Dibon i'r uchelfa i wylo;dros Nebo a thros Medeba fe uda Moab.Bydd moelni ar bob pen, a phob barf wedi ei heillio;

3. gwisgir sachliain yn yr heolydd;ar bennau'r tai, ac yn sgwâr y dref,bydd pawb yn udo ac yn beichio wylo.

Eseia 15