Eseia 14:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Ai hwn a droes y byd yn anialwch,a dinistrio'i ddinasoeddheb ryddhau ei garcharorion i fynd adref?”

18. Gorwedd holl frenhinoedd y cenhedloedd mewn anrhydedd,pob un yn ei le ei hun;

19. ond fe'th fwriwyd di allan heb fedd,fel erthyl a ffieiddir;fe'th orchuddiwyd â chelaneddwedi eu trywanu â chleddyf,ac yn disgyn i waelodion y pwll,fel cyrff wedi eu sathru dan draed.

20. Ni chei dy gladdu mewn bedd fel hwy,oherwydd difethaist dy dir a lleddaist dy bobl.Nac enwer byth mwy hil yr annuwiol;

Eseia 14