Eseia 12:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Mewn llawenydd fe dynnwch ddŵro ffynhonnau iachawdwriaeth.

4. Yn y dydd hwnnw fe ddywedi,“Diolchwch i'r ARGLWYDD,galwch ar ei enw;hysbyswch ei weithredoedd ymhlith y cenhedloedd,cyhoeddwch fod ei enw'n oruchaf.

5. Canwch salmau i'r ARGLWYDD,canys enillodd fuddugoliaeth;hysbyser hyn yn yr holl dir.

6. Bloeddia, llefa'n llawen, ti sy'n preswylio yn Seion;canys y mae Sanct Israel yn fawr yn eich plith.”

Eseia 12