Eseia 11:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Bydd plentyn sugno yn chwarae wrth dwll yr asb,a baban yn estyn ei law dros ffau'r wiber.

9. Ni wnânt ddrwg na difrodyn fy holl fynydd sanctaidd,canys fel y lleinw'r dyfroedd y môr i'w ymylon,felly y llenwir y ddaear â gwybodaeth yr ARGLWYDD.

10. Ac yn y dydd hwnnwbydd gwreiddyn Jesse yn sefyll fel baner i'r bobloedd;bydd y cenhedloedd yn ymofyn ag ef,a bydd ei drigfan yn ogoneddus.

Eseia 11