Eseia 10:17-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Bydd Goleuni Israel yn dâna'i Un Sanctaidd yn fflam;fe lysg ac fe ysaei ddrain a'i fieri mewn un dydd.

18. Fe ddifoda ogoniant ei goedwig a'i ddoldir,fel claf yn nychu, yn enaid a chorff.

19. A bydd gweddill prennau ei goedwig mor brinnes y bydd plentyn yn gallu eu cyfrif.

20. Yn y dydd hwnnw ni fydd gweddill Israel, a'r rhai a ddihangodd yn nhŷ Jacob, yn pwyso bellach ar yr un a'u trawodd; ond pwysant yn llwyr ar yr ARGLWYDD, Sanct Israel.

21. Bydd gweddill yn dychwel, gweddill Jacob,at Dduw sydd yn gadarn.

22. Canys, er i'th bobl Israel fod fel tywod y môr,gweddill yn unig fydd yn dychwel.Cyhoeddwyd dinistr, yn gorlifo mewn cyfiawnder.

23. Canys bydd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,yn gwneud dinistr terfynolyng nghanol yr holl ddaear.

24. Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd: “Fy mhobl, sy'n preswylio yn Seion, paid ag ofni rhag yr Asyriaid, er iddynt dy guro â gwialen, a chodi eu ffon yn dy erbyn fel y gwnaeth yr Eifftiaid.

25. Canys ymhen ychydig bach fe dderfydd fy llid, a bydd fy nigofaint yn troi i'w difetha hwy.

26. A bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ysgwyd chwip yn eu herbyn, fel y gwnaeth yn lladdfa Midian wrth garreg Oreb, ac yn codi ei wialen dros y môr fel y cododd hi dros yr Aifft.”

27. Yn y dydd hwnnwsymudir ei faich oddi ar dy ysgwydd,a dryllio'i iau oddi ar dy war.Esgynnodd o Rimmon,

28. daeth at Aiath,tramwyodd drwy Migron,rhoddodd ei gelfi i'w cadw yn Michmas;

29. aethant dros Maabaraac aros dros nos yn Geba.Dychrynodd Rama, arswydodd Gibea Saul.

30. Bloeddia'n groch, Bath-galim;gwrando arni, Lais; ateb hi, Anathoth.

31. Y mae Madmena ar ffo,a phobl Gebim yn chwilio am nodded.

32. Heddiw y mae'n sefyll yn Nob,ac yn cau ei ddwrn yn erbyn mynydd merch Seion,bryn Jerwsalem.

33. Wele yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,yn cymynu'r prennau yn frawychus;torrir ymaith y rhai talgryf,a chwympir y rhai uchel.

Eseia 10