Eseia 1:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Oni bai i ARGLWYDD y Lluoedd adael i ni weddill bychan,byddem fel Sodom, a'r un ffunud â Gomorra.

10. Clywch air yr ARGLWYDD, chwi reolwyr Sodom,gwrandewch ar gyfraith ein Duw, chwi bobl Gomorra.

11. “Beth i mi yw eich aml aberthau?” medd yr ARGLWYDD.“Cefais syrffed ar boethoffrwm o hyrddod a braster anifeiliaid;ni chaf bleser o waed bustych nac o ŵyn na bychod.

12. Pan ddewch i ymddangos o'm blaen,pwy sy'n gofyn hyn gennych, sef mathru fy nghynteddau?

Eseia 1