9. Bydd y gyfran a neilltuir yn arbennig i'r ARGLWYDD yn bum mil ar hugain o gufyddau o hyd a deng mil o gufyddau o led.
10. Dyma fydd yn gyfran gysegredig i'r offeiriaid: cyfran pum mil ar hugain o gufyddau o hyd ar ochr y gogledd, deng mil o led ar ochr y gorllewin, deng mil o led ar ochr y dwyrain, a phum mil ar hugain o hyd ar ochr y de; ac yn y canol bydd cysegr yr ARGLWYDD.
11. Bydd y gyfran hon i'r offeiriaid cysegredig o deulu Sadoc a fu'n ffyddlon i'm gwasanaethu, heb fynd ar gyfeiliorn fel y gwnaeth y Lefiaid pan aeth yr Israeliaid ar grwydr.
12. Bydd yn gyfran arbennig iddynt hwy o'r rhan gysegredig o'r tir; bydd yn gyfran gysegredig yn terfynu ar gyfran y Lefiaid.
13. Dyma fydd i'r Lefiaid: cyfran o dir pum mil ar hugain o gufyddau o hyd a deng mil o gufyddau o led, yn rhedeg yn gyfochrog รข therfyn yr offeiriaid; pum mil ar hugain o gufyddau fydd ei hyd cyfan, a'i led yn ddeng mil o gufyddau.