Eseciel 41:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna aeth â mi i mewn i'r deml a mesur y pileri; yr oedd y pileri bob ochr yn chwe chufydd o drwch.

2. Yr oedd y mynediad yn ddeg cufydd o led, a muriau'r mynediad bob ochr yn bum cufydd o drwch. Mesurodd hefyd hyd y deml; yr oedd yn ddeugain cufydd, a'i lled yn ugain cufydd.

Eseciel 41