Eseciel 36:37-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

37. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Byddaf eto'n gwrando ar gais tŷ Israel ac yn gwneud hyn iddynt: byddaf yn amlhau eu pobl fel praidd.

38. Mor lluosog â phraidd yr offrwm, mor lluosog â phraidd Jerwsalem ar ei gwyliau penodedig, felly y llenwir y dinasoedd a fu'n adfeilion â phraidd o bobl. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

Eseciel 36