Eseciel 35:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Ymddyrchefaist yn f'erbyn â'th enau ac amlhau geiriau yn f'erbyn, a chlywais innau.

14. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Tra bydd yr holl ddaear yn llawenhau, fe'th wnaf di'n ddiffeithwch.

15. Oherwydd iti lawenhau pan wnaed etifeddiaeth tŷ Israel yn ddiffeithwch, fel hyn y gwnaf i tithau: byddi di'n ddiffeithwch, o Fynydd Seir, ti a'r cyfan o Edom. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’

Eseciel 35