Eseciel 26:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Fe dry ei beiriannau hyrddio yn erbyn dy furiau, a dymchwel dy dyrau â'i arfau.

10. Bydd ei feirch mor niferus nes dy orchuddio â llwch; bydd dy furiau'n crynu gan sŵn y meirch, y wageni a'r cerbydau, wrth iddo ddod i mewn trwy'r pyrth fel un yn dod i ddinas wedi ei bylchu.

11. Bydd carnau ei feirch yn sathru dy strydoedd i gyd; fe leddir dy bobl â'r cleddyf, ac fe syrth dy golofnau cedyrn i'r llawr.

Eseciel 26