Eseciel 26:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Rhof ddiwedd ar sŵn dy ganiadau, ac ni chlywir sain dy delynau mwyach.

14. Gwnaf di'n graig noeth, ac fe ddoi'n lle i daenu rhwydau; nid ailadeiledir di mwyach, oherwydd myfi'r ARGLWYDD a lefarodd,’ medd yr Arglwydd DDUW.

15. “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth Tyrus: ‘Oni fydd yr ynysoedd yn crynu gan sŵn dy gwymp, pan fydd yr archolledig yn cwynfan a phan fydd rhai yn lladd o'th fewn?

16. Yna bydd holl dywysogion y môr yn disgyn oddi ar eu gorseddau, yn tynnu eu mentyll ac yn diosg eu gwisgoedd o frodwaith. Byddant wedi eu gwisgo â dychryn, yn eistedd ar lawr ac yn crynu bob eiliad, ac wedi eu brawychu o'th achos.

17. Yna, fe godant alarnad a dweud amdanat,“O, fel y dinistriwyd di, y ddinas enwoga fu'n gartref i forwyr!Buost yn rymus ar y moroedd,ti a'th drigolion,a gosodaist dy arswydar dy holl drigolion.

Eseciel 26