Eseciel 25:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. am hynny fe'th rof yn eiddo i bobl y dwyrain. Gosodant hwy eu gwersylloedd, a chodi eu pebyll yn dy ganol; byddant yn bwyta dy gnydau ac yn yfed dy laeth.

5. Fe wnaf Rabba yn borfa i gamelod ac Ammon yn gynefin defaid, a byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

6. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd iti guro dwylo a tharo traed a llawenhau รข holl falais dy galon yn erbyn Israel,

7. am hynny yr wyf am estyn fy llaw yn dy erbyn a'th roi yn anrhaith i'r cenhedloedd; torraf di ymaith o blith y bobloedd a'th ddifetha o fysg y gwledydd. Fe'th ddinistriaf, a byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

Eseciel 25